
This is a bilingual document, please find English below.
Clwb a Sefydliad Gwasanaethau Unedig (Machen) yn cefnogi’r gymuned diolch i
gyllid y Loteri Genedlaethol.
Mae Clwb a Sefydliad Gwasanaethau Unedig (Machen) yn gwneud gwahaniaeth
gwirioneddol yn ei gymuned, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r clwb
wedi llwyddo i sicrhau £17,191 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan ei
ganiatáu i wella ei effeithlonrwydd ynni ac uwchraddio ei gyfleusterau cegin.
Wedi’i redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ymroddedig, mae’r clwb yn dibynnu ar
gefnogaeth leol ar gyfer popeth o lanhau, atgyweirio a chynnal a chadw i drefnu a
chynnal digwyddiadau. Bydd yr uwchraddiadau mawr, angenrheidiol yma yn sicrhau
y gall y clwb barhau i wasanaethu’r gymuned, gan ddarparu lle cynnes croesawgar
ar gyfer cyfarfodydd cymdeithasol a digwyddiadau cerddoriaeth fyw am ddim. Bydd
y cyfleusterau gwell hefyd o fudd i elusennau lleol sy’n defnyddio’r cyfleusterau, gan
gynnwys Hwb Cymorth Cyn-filwyr Caerffili, sy’n cyfarfod yn y clwb bob wythnos.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Martin Beechey:
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol a’i holl chwaraewyr am wneud
y gwelliannau hyn yn bosibl. Mae’r uwchraddiadau hyn nid yn unig yn gwella ein
cyfleusterau ond hefyd yn helpu i sicrhau dyfodol y clwb fel canolfan hanfodol i’r
gymuned leol.”
I ddarganfod mwy am ymgeisio am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi eich cymuned, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk/cymru
United Services (Machen) Club and Institute supporting the community thanks to
National Lottery funding.
United Services (Machen) Club and Institute is making a real difference in its
community, thanks to National Lottery players. The club has successfully secured
£17,191 from The National Lottery Community Fund, allowing it to improve its energy
efficiency and upgrade its kitchen facilities.
Run entirely by dedicated volunteers, the club relies on local support for everything
from cleaning, repairs and maintenance to organising and hosting events. These
much-needed upgrades will ensure the club can continue serving the community,
providing a welcoming warm space for social gatherings and free live music events.
The improved facilities will also benefit local charities who use the facilities ,
including the Caerphilly Veteran Support Hub, which meets at the club every week.
Martin Beechey, club chairperson, said:
“We are hugely grateful to The National Lottery and all its players for making these
improvements possible. These upgrades not only enhance our facilities but also help
secure the club’s future as a vital hub for the local community.
To find out more about applying for a grant from The National Lottery Community
Fund to support your community, visit www.tnlcommunityfund.org.uk/wales